Adeiladu fferm solar 190 acer newydd ar Ynys Môn

Bydd fferm solar newydd yn cael ei hadeiladu ar Ynys Môn.
Daeth caniatad cynllunio ar gyfer fferm Porth Wen yn 2017 er bod llawer wedi gwrthwynebu'r datblygiad 190 acer ger Cemaes ar y pryd.
Fe gafodd y safle ei brynu gan EDF Renewables yn 2021, ac fe fydd lle yno ar gyfer uned stori batris hefyd.
Mae EDF wedi cadarnhau eu bod nhw bellach wedi cyrraedd y cam paratoi safle ac adeiladu.
Daw hyn wedi rhybuddion blaenorol y gallai Ynys Môn gael ei llenwi gyda datblygiadau solar.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Pixabay