Macron yn methu sicrhau mwyafrif

The Guardian 20/06/2022
Macron

Ddeufis yn unig wedi iddo sicrhau'r arlywyddiaeth am yr ail dymor yn olynol, mae Emmanuel Macron yn wynebu problemau mawr yn Senedd Cenedlaethol Ffrainc.

Mae ei blaid asgell ganol wedi colli dwsinau o seddi yn yr etholiad yn sgil poblogrwydd cynyddol yr asgell chwith a'r dde eithafol.

Mae system etholiadol Ffrainc yn golygu bod yna bleidlais ar gyfer yr etholiadau arlywyddol yn ogystal â'r rhai seneddol hefyd.

Dywedodd y Prif Weinidog presennol, Elisabeth Borne, bod y sefyllfa yn ddigynsail gan ddatgan bod y "sefyllfa yn peri gofid i Ffrainc yn genedlaethol yn ogystal ag yn rhyngwladol."

Fe wnaeth yr arweinydd asgell chwith eithafol, Jean-Luc Mélenchon, lwyddo i uno'r asgell chwith gyda'r Gwyrddion a'r Comiwnyddion.

Fe wnaeth mwy na hanner o bleidleiswyr ymatal, gyda dim ond 46.23% yn penderfynu defnyddio eu pleidlais.

Darllenwch fwy yma.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.