Cymru trwodd i rownd gyn-derfynol Cwpan Dartiau’r Byd
Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Dartiau'r Byd yn yr Almaen.
Fe gurodd y ddau Yr Almaen 2-0 brynhawn Sul i symud ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth yn erbyn Yr Iseldiroedd yn Frankfurt nos Sul.
Daw hyn ar ôl i’r ddau guro Awstria brynhawn Sadwrn.
Fe enillodd y ddau'r gystadleuaeth yn 2020 ac fe fyddan nhw nawr yn wynebu’r pâr o’r Almaen ar domen eu hunain.
Roedd y gêm yn erbyn Awstria yn agos iawn ond llwyddodd y ddau Gymro i godi’u gêm ddydd Sul.
Dywedodd Gerwyn Price ar ôl y fuddugoliaeth: “Dyna’r orau rwy wedi chwarae mewn amser hir.”
Ychwanegodd Jonny Clayton; “Ry ni ar y map nawr.”
Mae’r rownd derfynol yn cael ei chwarae nos Sul.