Cymru trwodd i rownd wyth olaf Cwpan Dartiau'r Byd
18/06/2022
Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton wedi cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Dartiau'r Byd yn yr Almaen.
Fe gurodd y ddau Awstria brynhawn Sadwrn i symud ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth yn Frankfurt.
Fe enillodd y ddau y gystadleuaeth yn 2020 a fe fyddan nhw nawr yn wynebu’r pâr o’r Almaen ar domen eu hunain ddydd Sul.
Roedd y gêm yn erbyn Awstria yn agos iawn ond llwyddodd y ddau Gymro i oresgyn o 4-3.
Roedd Price ar ei orau gyda sgoriau i gwblhau gemau o 156, 149 a 142.
Llun: Twitter/Gerwyn Price