Adeilad nodedig yng Nghaernarfon ar werth am £1 miliwn
Mae cyn adeilad swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon nawr ar werth am bris o £1 miliwn.
Mae swyddfeydd Llywodraeth Cymru a’r Ganolfan Gwaith wedi adleoli oddi yno ers rai blynyddoedd.
Mae’r adeilad pum llawr yng nghanol y dref yn nodedig am ei wneuthuriad concrit a ffenestri mawr.
Dywedodd Cyngor Sir Gwynedd a Llywodraeth Cymru na fydd y gwerthiant yn effeithio ar eu gwaith na’u gwasanaethau.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Google