Sir Benfro: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio wedi marwolaeth dyn 85 oed
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth dyn 85 oed yn Sir Benfro ddydd Gwener.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am farwolaeth “sydyn” dyn oedrannus mewn eiddo ar Ffordd Hawkstone, Doc Penfro am tua 13.30 brynhawn Gwener.
Dywedodd y llu bod dyn yn ei 40au wedi cael ei arestio wedi’r digwyddiad.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau.
Mae’r llu wedi dweud y dylai trigolion lleol disgwyl gweld mwy o swyddogion yn yr ardal wrth iddyn nhw gynnal eu hymchwiliad.