Drama’r Eisteddfod yn profi’n boblogaidd iawn

S4C

Mae tocynnau ar gyfer drama Gymraeg ‘Nôl i Nyth Cacwn’ wedi eu gwerthu allan mewn llai na hanner awr.

Mae’r ddrama yn cael ei chynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst.

Roedd bwriad cael dau berfformiad o’r ddrama ond nawr bod yr holl docynnau wedi eu gwerthu mor gyflym, mae trefnwyr yn ystyried trydydd perfformiad ac efallai pedwerydd.

Mae’r ddrama yn seiliedig ar gyfres gomedi ‘Nyth Cacwn’ a ddarlledwyd ar S4C yn 1989.

Darllenwch fwy yma.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.