Streiciau trên i ddigwydd ar ôl i drafodaethau fethu

Mae arweinwyr undeb RMT wedi cadarnhau y bydd eu haelodau yn streicio ar ôl i drafodaethau fethu datrys anghydfod dros gyflog, swyddi ac amodau gwaith.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Mick Lynch: “Er gwaethaf ein hymdrechion gorau ni lwyddwyd i gael cytundeb gweithredol ar yr anghydfod.”
Ychwanegodd Mr Lynch fe fydd miloedd o weithwyr ar streic ar 21, 23 a 25 Mehefin ar Network Rail ac 13 o rwydweithiau gan gynnwys system danddaearol Llundain ar 25 Mehefin.
Fe fydd y rhan fwyaf o wasanaethau trên ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru wedi eu hatal ar ddiwrnodau'r streic, er nad oes anghydfod uniongyrchol rhwng yr undeb a Thrafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Network Rail fod yr undeb wedi “gwrthod trafod cyn i ni orffen.” Mae rhagor o drafodaethau wedi’u cynllunio ar gyfer dydd Sul.
Mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi galw ar y ddwy ochr i barhau i drafod oherwydd nad yw am weld y streiciau'n mynd yn eu blaen.
Dywedodd; “Rwy’n rhwystredig, fel y cyhoedd, fod y llywodraeth ddim yn codi bys i ddatrys y streiciau yma.”
Darllenwch fwy yma.
Llun: Trafnidiaeth Cymru