Dathlu’r Gymraeg yn y brifddinas yn nghŵyl Tafwyl
Dathlu’r Gymraeg yn y brifddinas yn nghŵyl Tafwyl
Mae gŵyl Tafwyl yn cael ei chynnal unwaith eto yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Dyma'r eildro i'r ŵyl gael ei chynnal ers y pandemig ond y tro cyntaf ar raddfa fawr.
Yn ôl y trefnwyr mae Tafwyl yn “dathlu’r iaith, celfyddydau a diwylliant Cymreig" yn y brifddinas.
Fe’i sefydlwyd yn 2006 fel rhan o waith menter iaith Caerdydd sy’n hyrwyddo ac ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yn yr ardal.
Dechreuodd Tafwyl am y tro cyntaf yn nhafarn y Mochyn Du gyda thua 1,000 o bobl yn mynychu.
Erbyn hyn mae disgwyl i dros 40,000 o bobol fwynhau digwyddiadau’r penwythnos yng Nghastell Caerdydd gan gynnwys cerddoriaeth, celf, drama, comedi, chwaraeon, bwyd a diod.
Heidiodd 500 o bobl i Gastell Caerdydd y llynedd i ddathlu'r ŵyl gerddorol gyntaf i gael dychwelyd i'r wlad ar ôl y pandemig.
Roedd rhaid i bawb oedd yn mynychu'r digwyddiad ddangos tystiolaeth o ddau brawf negyddol am Covid-19 cyn cael mynediad.
Eleni, mae yna lu o berfformwyr yn cymryd rhan mewn nifer o fannau:
Ymhlith y rhain mae:
Y Prif Lwyfan – Sŵnami, Yws Gwynedd, Adwaith, Gwilym a Tara Bandito.
Y Sgubor – Bwncath, Blodaun Papur a Meinir Gwilym.
Yurt T – los Blancos, Hyll a Mali Haf.
Llais – Tahahahafwyl, Creu yn y Gymraeg ac O Glust i Glust.
Llwyfan y Porth – Wonderbrass, Barracadw a Clera.