Newyddion S4C

Ceiswyr lloches i dderbyn tagiau electronig

Sky News 18/06/2022
ffoaduriaid sianel (UNHCR)

Bydd rhai ceiswyr lloches i’r DU yn gorfod gwisgo tagiau electronig o dan gynllun newydd gan Swyddfa Gartref y DU.

Bydd cyfnod prawf o 12 mis yn gallu effeithio ar oedolion sydd ar fin cael eu symud o’r DU.

Mae’n debygol mai'r cyntaf i gael eu tagio bydd y bobol wnaeth apelio’n llwyddiannus yn erbyn cael eu symud i Rwanda.

Ddydd Mawrth cafodd yr hediad alltudo gyntaf ei chanslo yn dilyn sawl apêl munud olaf.

Dywedodd y Swyddfa Gartref fydd y cyfnod prawf, sy’n cychwyn ddydd Iau, yn profi os fydd y tagio yn helpu cadw cyswllt agos gyda cheiswyr lloches a phrosesi eu cynigion yn fwy effeithiol.  Bydd hefyd yn cadw cofnod o faint o bobol fydd yn ffoi.

Ychwanegodd y Swyddfa Gartref na fydd plant na menywod beichiog yn cael eu tagio.

Mae ymgyrchwyr wedi dweud fod y cynllun yn un “draconaidd” ac yn “trin ceiswyr lloches fel troseddwyr.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae’r bobl fregus yma yn dod i’n gwlad ni i chwilio am loches a diogelwch. Dylen ni eu trin gydag urddas a pharch, nid fel troseddwyr. Mae’r polisi yma yn warthus ac yn gwbl groes i'n safle fel Cenedl Noddfa."

Darllenwch fwy yma.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.