Heddlu ym Mrasil yn cadarnhau darganfod corff y newyddiadurwr Dom Phillips

Mae’r heddlu ym Mrasil wedi cadarnhau dod o hyd i weddillion y newyddiadurwr Dom Phillips yn yr Amazon.
Dywedodd yr heddlu fod record ddeintyddol Mr Phillips wedi cadarnhau hynny.
Mae’r ail gorff yn dal i gael ei archwilio ond y dybiaeth yw mai'r ymgyrchydd dros hawliau brodorol Bruno Pereira yw hwnnw.
Aeth y ddau ar goll 10 diwrnod yn ôl ar ôl methu a dychwelyd o daith ar yr afon Itaquai yn yr Amazon.
Yn ôl yr heddlu, dyn lleol oedd dan amheuaeth o lofruddio'r ddau arweiniodd swyddogion at y cyrff.
Mae Amarildo da Costa de Oliveira, 41 oed, wedi cyfaddef iddo saethu'r ddau'n farw yn ôl swyddogion yr heddlu.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter