Y Bws Beics: 'Dim ond mewn grwpiau mwy fedrwn ni seiclo i'r ysgol yn ddiogel'
Y Bws Beics: 'Dim ond mewn grwpiau mwy fedrwn ni seiclo i'r ysgol yn ddiogel'
Mae'r Bws Beics yn gyfle i sicrhau fod ffordd ddiogel o deithio i'r ysgol gan nad oes digon o lwybrau diogel i griwiau llai wneud hynny, yn ôl un sy'n arwain y cynllun mewn un ysgol yng Nghaerdydd.
Mae'r Bws Beics yn gynllun lle mae grwpiau mwy o blant a rhieni yn seiclo ar hyd llwybr sydd wedi'i gynllunio, a hynny er mwyn gwneud y daith yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hwyliog.
Mae yna 10 Bws Beics mewn amryw o ysgolion eraill ar draws Caerdydd hefyd, gan gynnwys Ysgol Gymraeg Treganna, Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Ysgol Y Wern, Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd ac Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth.
Mae Meic Parry yn rhiant, llywodraethwyr ac yn arwain y Bws Beics yn Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yn Grangetown.
Fe ddechreuodd y cynllun yn Ysgol Hamadryad ym mis Tachwedd y llynedd.
"Be’ ‘dan ni’n neud yn wahanol ar y Bws Beics, a dyma sut ma’n gweithio ydi ‘dan ni’n meddiannu’r ffordd lle fydda’r car fel arfer yn teithio," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ffordd i blant a rhieni ddilyn un llwybr i gasglu pawb ar y ffordd i fynd i’r ysgol mewn un, achos ma’r lonydd mor beryg ag anwastad felly dan ni'n neud o efo’n gilydd mewn grŵp.
"Ar y funud, ma’ ‘na dros 50 ohona ni’n neud o, ma’n bosib i ni deithio mewn un, fel un cerbyd mawr, a ma’ hynny yn ffordd saffach o gyrraedd yr ysgol."
Ond mae lle i wella yn ôl Meic Parry, a hynny am ei fod yn pryderu am ddiogelwch ar y lonydd pe bai criwiau llai yn seiclo i'r ysgol.
"Dwi'n cydnabod bod rhwydwaith beicio weddol dda yng Nghaerdydd, ond mae bylchau ynddo o hyd ac mae hynny’n ei gwneud hi’n anodd iawn os ydych chi’n ceisio mynd â phlant o’r ysgol i wahanol lefydd ar feic," meddai.
"Dydy’r lonydd ddim yn ddiogel, dyna ydi’r gwir amdani.
"Ma’ ‘na ormod o geir, ma’ ‘na ormod o geir yn teithio yn wyllt, a does ‘na ddim llwybrau diogel beicio na cerdded i’r plant gyrraedd yr ysgol. Ar y palmentydd, ma’r ceir yn aml wedi parcio i fyny yn blocio’r ffyrdd, a ma’ hynny yn broblem."
Ychwanegodd: "Pan ‘dach chi’n deulu bach, dwi’n rhiant efo tri o blant bach, dio ddim yn bosib mynd ar y lôn, ma’ rhaid i ni ddefnyddio’r palmant a does ‘na ddim llwybr diogel.
"Mae o’n warth rili bo’ ‘na ddim, dyla bod ‘na ffordd rhwydd i’r plant gyrraedd yr ysgol o leia, does ‘na ddim a gobeithio wellith hynny dros y blynyddoedd nesa."
'Parhau i fuddsoddi'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud cerdded, sgwtio a beicio yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i blant sy'n teithio i'r ysgol, ac rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd gan rieni yn Ysgol Hamadryad.
"Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn seilwaith sy'n cefnogi teithiau ysgol mwy diogel, ac yn gweithio gydag Ysgol Hamadryad i wella diogelwch eu disgyblion sy'n teithio i’r ysgol mewn dulliau llesol. Mae rhaglenni diweddar wedi darparu llochesi beiciau newydd, croesfannau gwell, a chyfyngiadau parcio estynedig.
"Yn Hamadryad, fel gydag ysgolion eraill, rydym hefyd wedi hwyluso bws cerdded, fel bod rhieni yn gallu parcio pellter byr o'r ysgol, a gall disgyblion gerdded i'r ysgol gyda'i gilydd gyda staff yr ysgol."
Mae Hedydd ac Enlli, y ddwy ohonynt yn naw oed, yn ddisgyblion yn yr ysgol, ac maen nhw wrth eu boddau gyda'r Bws Beics.
"Dwi’n meddwl ma’n gret a ma’n dda am ymarfer corff, a chi’n gallu creu lot o ffrindie," meddai Hedydd.
Ychwanegodd Enlli: "Dwi’n mwynhau y Bike Bus achos dwi’n hoffi reidio beic a ‘dan ni hefyd yn cael caneuon neis ag i gadw’n iach."
Dau arall sy'n mwynhau bod yn rhan o'r clwb ydi Ela, 10, a Seth, chwech.
"Rydw i’n meddwl mae’n rili hwyl oherwydd mae’n ddechrau da i’r diwrnod jyst gwneud ymarfer corff," meddai Ela.
Ychwanegodd Seth: "Dwi’n hoffi gwneud ymarfer corff oherwydd mae’n neud chi’n iach."
Mae Geraint Criddle yn rhiant yn yr ysgol hefyd, ac ynghlwm â'r Bws Beics.
"Mae e jyst yn gyfle i ddod i ‘nabod eich cymuned chi fi’n teimlo, os ni’n mynd yn y car, ni jyst yn teimlo ni jyst yn mynd o A i B, mas â nhw a wedyn nôl, does dim agosatrwydd ‘na, cysylltiad cymunedol sydd yn drueni," meddai wrth Newyddion S4C.
"Felly gobeithio fydd mwy o bobl yn gallu gweld hynna a bo’ nhw’n gallu gwerthfawrogi a chyfrannu at yr ymdeimlad o gymuned sydd yn yr ysgol, ac yn ehangach."
Ychwanegodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad Ceri Morgan: "Mae e’n gyfle gwych i’r plant falle sy’n llai hyderus ar eu beiciau i ddod gan eu bod nhw ar draws y ffyrdd i gyd a bod dim modd wedyn i geir ddod heibio iddyn nhw.
"Mae e’n hyfryd gweld cymaint o blant yn dod gyda’u rhieni a mae’n rhywbeth cymunedol a mae’n rhywbeth fel ysgol y’n ni’n falch iawn ein bod ni wedi dechre."
Mae Hamish Belding yn un o drefnwyr Prosiect Bws Beics FRideDays sydd yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Walk Wheel Cycle.
Fe ddywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae'r prosiect yn darparu amrywiaeth o adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth barhaus fel rhan o'u taith Bws Beics."
"Mae Caerdydd yn rhan fawr o gymuned prosiect Bws Beics FRideDays," meddai Mr Belding.
"Mae'r Bws Beics yn bwysig iawn am ei fod yn caniatáu ac yn cefnogi'r teuluoedd hynny i wneud y daith honno i'r ysgol drwy seiclo a dod â'r gymuned at ei gilydd.
Mae Ysgol Hamadryad yn un sydd yn cefnogi teithio llesol i'r ysgol, gan geisio annog teuluoedd i deithio i'r ysgol mewn ffordd actif a chynaliadwy.
"Yr adborth sy'n dod yn ôl atom ni yn aml ydi gan y gymuned ydi ei bod hi dal yn anodd ac weithiau yn syniad ofnus i seiclo i'r ysgol, yn rhannol oherwydd bod nifer o'n ffyrdd ni wedi eu dominyddu gan geir," meddai Mr Belding.
"Fe wnaeth yr ysgol weld gan ysgolion eraill yng Nghaerdydd effaith bositif y Bws Beics wrth alluogi teuluoedd i seiclo i'r ysgol... ac fe wnaeth yr ysgol a rhai o'r teuluoedd ddod ataf i a dweud fod ganddyn nhw ddiddordeb i ddechrau'r Bws Beics."
