‘Peryg gwirioneddol i fywydau’: BT yn cytuno i achub TalkTalk
Mae BT Group wedi cytuno ar gytundeb i achub rhan o fusnes TalkTalk o ddwylo’r gweinyddwyr.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y DU rybuddio bod “perygl gwirioneddol i fywydau a gwasanaethau cyhoeddus” os na fyddai prynwr yn dod i’r fei.
Bydd y cytundeb yn diogelu tua 900 o swyddi a gwasanaethau telathrebu i filiynau o gwsmeriaid, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Dywedodd BT ei fod wedi camu i mewn i achub TalkTalk a’i fusnes PlatformX Communications (PXC) rhag mynd i’r wal mewn “sefyllfa gwbl ddigynsail”.
Roedd ymdrechion TalkTalk i ddod o hyd i brynwr ar gyfer ei ddau fusnes wedi methu cyn i Lywodraeth y DU gymryd camau brys i sicrhau bod BT yn prynu’r busnesau.
Dywedodd BT y bydd y cytundeb yn “sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i’w 2.5 miliwn o gwsmeriaid, gan osgoi’r risg o niwed sylweddol i gwsmeriaid bregus a gwasanaethau brys allweddol”.
'Angen gweithredu'
Mae cwsmeriaid TalkTalk yn cynnwys aelwydydd bregus a darparwyr seilwaith cenedlaethol hanfodol ym meysydd iechyd, gwasanaethau brys, amddiffyn, addysg, trafnidiaeth, bancio a llywodraeth.
Dywedodd y gweinyddwyr, Alvarez & Marsal Europe, y bydd pob un o’r 900 o weithwyr ym musnes defnyddwyr a band eang TalkTalk a PXC yn trosglwyddo i BT fel rhan o’r cytundeb.
Dywedodd Lisa Nandy, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: “Mae gwasanaethau ffôn a band eang yn seilwaith cenedlaethol hanfodol.
“Os bydd gwasanaethau TalkTalk yn methu, mae perygl gwirioneddol i fywydau a gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysbytai, ysgolion a gofal brys.
“Mae’r amgylchiadau hyn yn ddigynsail ac mae angen gweithredu nawr.
“Dyna pam rydw i’n gweithredu ar frys i sicrhau bod yr effeithiau ar iechyd y cyhoedd, seilwaith cenedlaethol hanfodol a gwasanaethau i gwsmeriaid bregus yn cael eu hystyried yn llawn fel rhan o’r broses hon.”
Dywedodd Allison Kirkby, prif weithredwr BT Group: “Mae hon yn sefyllfa gwbl ddigynsail. Byddai miliynau o bobl a busnesau wedi bod mewn perygl pe bai TalkTalk wedi mynd i’r wal.”
Ychwanegodd: “Ein blaenoriaeth ar unwaith yw sefydlogi’r busnes a darparu rhwyd ddiogelwch i’r aelwydydd a’r busnesau sy’n dibynnu ar TalkTalk.”
