Nigel Farage heb siarad gyda'r AS James Evans 'ers ychydig o flynyddoedd'

James Evans

Mae Nigel Farage wedi dweud ar blatfform X nad ydy o wedi siarad gyda'r AS James Evans am unrhyw fwriad i ymuno gyda Reform UK.

Ddydd Mawrth fe gollodd yr aelod Ceidwadol chwip y blaid ar ôl iddo ddweud ei fod yn parhau i drafod â Reform.

Ond mewn neges ar X fe ddywedodd arweinydd Reform UK nad oedd o wedi siarad gyda Mr Evans "ers ychydig o flynyddoedd".

Wedi'r cyhoeddiad ei fod wedi ei ddiarddel o'r blaid Geidwadol yn y Senedd, dywedodd James Evans ei fod wedi bod yn "bryderus ers peth amser ynghylch cyfeiriad y Blaid Geidwadol ar lefel y DU ac rwy’n teimlo nad yw bellach yn cynrychioli fy ngwerthoedd a'm credoau ceidwadol".

Ychwanegodd y bydd yn parhau i ganolbwyntio ar ei etholwyr ym Mrycheiniog a Maesyfed a'i fod am gymryd amser i ystyried ei opsiynau gwleidyddol.

Mae unig aelod Reform yn y Senedd, Laura Anne Jones, wedi dweud wrth raglen wleidyddol Sharp End ITV y byddai Mr Evans yn "ased wych" i'r blaid.

Dywedodd ar y rhaglen ei fod yn "dweud llawer o'r pethau iawn" ond bod Reform yn siarad gyda phobl o nifer o wahanol bleidiau. 

Ychwanegodd bod gan y blaid broses wirio "gryf" ac nad ydyn nhw yn "cymryd unrhyw un".

Dyw Reform UK ddim wedi ymateb yn ffurfiol i'r ffrae ymysg y Ceidwadwyr Cymreig.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.