Galw am adfer 'methiannau' wrth i gynllun ynni newydd gael ei gyhoeddi
Mae angen adfer cartrefi sydd wedi’u difrodi gan gwmnïau cynllun ECO4 fel blaenoriaeth cyn cychwyn ar gynllun ynni newydd, yn ôl mam o Rondda Cynon Taf.
Mae Jane Wallbank o Benrhiwceibr yn dweud ei bod wedi “byw drwy hunllef”.
Fe wnaeth gwaith ECO4 yn ei chartref fis Hydref y llynedd achosi llifogydd mewn sawl ystafell meddai.
Dywedodd hefyd fod tân wedi dechrau mewn un o waliau’r cartref wrth i waith inswleiddio gael ei wneud gan y cwmni Consumer Energy Solutions, o Abertawe, sydd bellach wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Dywedodd Ms Wallbank, sydd yn gweithio'n llawn amser fel gweithiwr cefnogol anghenion addysgiadol ychwanegol: “Roedd y dŵr yn disgyn yn bob man. Roedd rhaid i mi wasgu’r dŵr allan o fat yn yr ystafell fwyta.
“Dwi ddim efo lloriau. Mae 'na dyllau yn y waliau. Mae angen gwneud gwaith ym mhob ystafell, a dwi wedi gwneud lot o waith yma yn barod. Rydw i dal i fyw drwy’r hunllef, yn sicr.”
Fe aeth CES i'r wal wedi i Lywodraeth y DU benderfynu dod â chynllun ECO i ben fis Mawrth eleni, ar ddiwedd y cynllun ECO4 presennol.
Ddydd Mercher, cyhoeddodd y Llywodraeth gynllun newydd o'r enw Cartrefi Cynnes (Warm Homes), er mwyn “mynd i’r afael â thlodi tanwydd”.
Fel rhan o'r cynllun newydd, bydd £15 biliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i uwchraddio systemau gwresogi cartrefi'r wlad.
Wedi i CES ddod i ben, mae Ms Wallbank wedi bod yn ceisio canfod atebion ynglŷn â phwy fydd yn gyfrifol am waith i atgyweirio’r problemau sydd yn parhau yn ei chartref. Mae hefyd wedi bod yn ceisio cael atebion gan riant gwmni CES, City Energy Group.
“Rwy’n gweithio llawn amser, rwy’n fam hefyd, ond rwy’n treulio bob dydd just yn anfon e-byst i bob man. Mae’n teimlo fel fy mod i’n gwastraffu fy amser, achos does dim byd yn cael ei wneud," meddai.
Ychwanegodd Ms Wallbank ei bod nawr yn edrych am dŷ newydd yn dilyn ei phrofiad.
“Rydw i wedi dechrau edrych, a dwi am geisio arbed arian am deposit i brynu tŷ eto, ac i symud i ffwrdd o fan ‘ma.
“Oherwydd mae’r tŷ yma, pan symudon ni yma dair blynedd yn ôl, dyma oedd y dream home a’r gôl oedd i brynu’r tŷ.
“Ond nawr, mae wedi mynd o fod yn gartref i fyw mewn uffern, cragen o adeilad. Dwi angen cael allan,” meddai.
'Colli gobaith'
Yn ôl y cynllun newydd, bydd £5 biliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer cynlluniau i gartrefi incwm isel, £2 biliwn ar gyfer benthyciadau a £2.7 biliwn ar gyfer grantiau pympiau gwres o dan y cynllun uwchraddio boeleri.
Bydd £2.7 biliwn arall hefyd ar gyfer cynllun cartrefi cynnes newydd.
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer: “Ni ddylai cartref cynnes fod yn fraint, dylai fod yn warant sylfaenol i bob teulu ym Mhrydain.
“Mae cynllun heddiw yn drobwynt. Bydd yn helpu i dorri costau ynni a chodi hyd at filiwn o bobl allan o dlodi tanwydd.”
Fe ychwanegodd Ysgrifennydd Ynni San Steffan mai nod y cynllun newydd yw “i droi'r llanw...yn erbyn tlodi tanwydd, a chymryd cam arall ymlaen wrth fynd i'r afael â'r argyfwng fforddiadwyedd i deuluoedd ledled Prydain.”
Mae Ms Wallbank yn galw arnynt i sicrhau bod gwaith a gafodd ei gyflawni o dan gynlluniau ECO blaenorol yn cael ei gwblhau yn gyntaf, fel blaenoriaeth.
“Mae dal problemau gan bobl oedd yn rhan o’r phase cyntaf, ECO1, a nawr maen nhw am gyhoeddi y pumed phase, ond mae angen gwneud yn iawn i’r bobl yna yn gyntaf.
"Dwi wedi colli gobaith am gael iawndal neu unrhyw ffordd o adfer, ond dwi eisiau gwneud bob dim allwn i ddod â’r methiant systematig yma allan yna, fe wna’i fy ngorau i rhoi’r neges mas.”
'Methu'n llwyr'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, mae'r elusen Fuel Poverty Action wedi galw am drwsio cartrefi "pob dioddefwr ECO4 ar frys".
Dywedodd Jonathan Bean ar ran Fuel Poverty Action: "Rydym yn cytuno'n gryf â'r Prif Weinidog y dylai cartref cynnes fod yn warant sylfaenol i bob teulu. Ond yn anffodus mae'r Cynllun Cartrefi Cynnes yn methu'n llwyr â chyflawni'r addewid hwn.
"Mae cynlluniau blaenorol wedi gadael y cyhoedd yn chwarae roulette gyda chynlluniau ôl-osod - gyda miloedd o bobl yn colli allan gydag inswleiddio, pwmp gwres a gosodiadau solar gwael.
“Mae dioddefwyr y cynllun ECO4 wedi cael eu hanwybyddu am flynyddoedd mewn cartrefi oer, llaith, llwyd, neu gyda biliau enfawr.
“Er mwyn adfer ymddiriedaeth y cyhoedd, rhaid i'r Llywodraeth drwsio cartrefi pob dioddefwr ECO4 ar frys, sicrhau bod arbedion ar filiau, a buddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau priodol."
Mewn datganiad gan KR8 Advisory, y cwmni gweinyddol sydd yn gyfrifol am asedau CES, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Jimmy Saunders: “Roedd y Cwmni wedi wynebu nifer o heriau ariannol a gweithredol yn ddiweddar a waethygwyd gan y penderfyniad diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i beidio ag ymestyn cynllun ECO4 y tu hwnt i Fawrth 2026.
“Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau perthnasol i gefnogi cyn-weithwyr i chwilio am gyflogaeth newydd ac i hawlio eu hawliau diswyddo.”
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan City Energy Group.
