'Plant yn gwneud camgymeriadau' meddai David Beckham wedi sylwadau ei fab Brooklyn
Mae Syr David Beckham wedi dweud bod yn rhaid i rieni adael i’w plant "wneud camgymeriadau", ddiwrnod yn unig ar ôl i’w fab Brooklyn honni mewn datganiad ar Instagram fod ei rieni wedi bod yn "rheoli rhan fwyaf ei fywyd".
Fe wnaeth Brooklyn, 26 oed, lu o honiadau am gyn-chwaraewr pêl-droed Lloegr a'i wraig, y gantores a'r dylunydd ffasiwn Victoria Beckham.
Yn ei ddatganiad ar Instagram ddydd Llun, dywedodd Brooklyn fod ei rieni wedi bod yn "rheoli'r naratif yn y wasg am ein teulu".
"Dydw i ddim eisiau cymodi â fy nheulu," meddai. "Dydw i ddim yn cael fy rheoli, rydw i’n sefyll dros fy hun am y tro cyntaf yn fy mywyd.
"Drwy gydol fy mywyd, mae fy rhieni wedi rheoli'r naratif yn y wasg am ein teulu. Mae’r cyhoeddiadau cyfryngau cymdeithasol perfformiadol, digwyddiadau teuluol a pherthnasoedd ffug wedi bod yn rhan annatod o’r bywyd y cefais fy ngeni iddo.
"Yn ddiweddar, rydw i wedi gweld gyda fy llygaid fy hun y hyd y byddan nhw’n mynd drwyddo i osod celwyddau dirifedi yn y cyfryngau, yn bennaf ar draul pobl ddiniwed, i gadw eu ffasâd eu hunain. Ond rydw i’n credu bod y gwir bob amser yn dod allan."
Priodas
Fe wnaeth Brooklyn briodi Nicola Peltz Beckham, sy'n ferch i'r biliwnydd Nelson Peltz a'r cyn-fodel Claudia Heffner Peltz, yn 2022.
Ef yw plentyn hynaf y Beckhams, sydd â dau fab arall, Cruz a Romeo, ac un ferch, Harper.
Wrth siarad ar raglen Squawk Box CNBC ddydd Mawrth, ni wnaeth Syr David Beckham fynd i’r afael â’r anghydfod yn uniongyrchol ond siaradodd am ei blant a pheryglon y cyfryngau cymdeithasol.
"Rydw i wedi gallu defnyddio fy llwyfan a’m dilynwyr ar gyfer Unicef ac mae wedi bod yr offeryn mwyaf i wneud pobl yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ledled y byd i blant," meddai.
"Rydw i wedi ceisio gwneud yr un peth. Rydw i wedi ceisio gwneud yr un peth gyda fy mhlant i’w haddysgu. Maen nhw’n gwneud camgymeriadau. Mae'n iawn i blant wneud camgymeriadau. Dyna sut maen nhw’n dysgu.
"Felly dyna rydw i’n ceisio ei ddysgu i fy mhlant. Ond wyddoch chi, mae’n rhaid i chi weithiau adael iddyn nhw wneud y camgymeriadau hynny hefyd."
Honiadau
Fe wnaeth Brooklyn honiadau penodol oedd yn ymwneud ag ymddygiad ei rieni ar ddiwrnod ei briodas yn y datganiad.
"Mae fy rhieni wedi bod yn ceisio’n ddiddiwedd i ddifetha fy mherthynas ers cyn fy mhriodas, ac nid yw wedi stopio," meddai.
"Fe wnaeth Mam ganslo gwneud ffrog Nicola ar y funud olaf er gwaethaf pa mor gyffrous oedd hi i wisgo ei dyluniad, gan ei gorfodi i ddod o hyd i ffrog newydd."
Fe aeth ymlaen i honni bod ei fam ar ddiwrnod ei briodas wedi tarfu ar ei ddawns gyntaf gyda Nicola.
"Fe wnaeth hi [Victoria Beckham] ddawnsio yn hollol anaddas gyda fi o flaen pawb," meddai.
"Dwi erioed wedi teimlo yn fwy anghyffyrddus na wedi fy nghywilyddio fwy yn fy mywyd i gyd."
Mae Brooklyn yn dweud hefyd bod ei wraig wedi ei hamharchu gan ei deulu.
