Dinistrio naw tunnell o fêps wedi achos llys
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyhoeddi y bydd naw tunnell o fêps a gafodd eu mewnforio drwy borthladd Caergybi yn cael eu dinistrio.
Yn ôl yr awdurdod, doedd y nwyddau ddim yn cydymffurfio a rheoliadau’r DU.
Daeth y penderfyniad i ddinistrio'r fêps ar ôl achos llys ganol Ionawr pan blediodd dyn o Blackburn yn euog i dri chyhuddiad o dan reoliadau Tybaco a Chynhyrchiol Cysylltiedig.
Cafodd 109,600 o fêps eu darganfod fis Hydref 2023 ar ôl iddyn nhw gael eu mewnforio drwy Borthladd Caergybi gan Ibrahim Shafi, 34 oed.
Clywodd Llys Ynadon Yr Wyddgrug fod maint tanciau’r fêps bum gwaith yn fwy na’r uchafswm sy'n cael ei ganiatáu.
Dywedodd yr erlynydd Laura Knightly wrth y llys fod safonau masnach Ynys Môn wedi derbyn galwad ar 11 Hydref 2023 gan gydweithwyr yn Llu Ffiniau’r DU i archwilio cynhwysydd.
Uned oergell oedd y cynhwysydd, ac roedd yr awdurdodau wedi cael gwybod mai bwyd oedd y cynnwys.
Roedd Mr Shafi wedi gwadu'r troseddau yn wreiddiol, cyn newid ei ble i euog fore'r achos llys.
Rhybuddiodd y Barnwr Rhanbarth Gwyn Jones fod y rhai hynny sy'n dod ag eitemau i mewn i Gymru a Lloegr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau.
Disgrifiodd Mr Shafi fel dyn busnes llwyddiannus a dyn teulu, ac oherwydd hynny na fyddai’n gosod dedfryd o garchar. Ond wrth gyfeirio at y fêps, dywedodd fod Mr Shafi, fel dyn busnes, yn gwybod fod problem.
Cafodd Mr Shafi orchymyn i dalu dirwy o £3,500 am bob trosedd yn ogystal â gordal dioddefwr pellach o £2,000 a chostau i'r erlyniad o £18,328.61, gyda’r cyfan yn dod i gyfanswm o £30,828.61.
