Trump yn ddi-droi nôl am yr Ynys Las wrth deithio i Davos
Bydd Donald Trump yn rhoi araith i arweinwyr y byd yn Davos yn ddiweddarach ac mae'n ddi- droi nôl ar ei uchelgais i gymryd drosodd yr Ynys Las.
Fe ofynnodd newyddiadurwyr wrtho yn y Tŷ Gwyn pa mor bell oedd o'n fodlon mynd er mwyn meddiannu'r ynys. Ei ateb oedd, "Fe gewch chi weld".
Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi rhybuddio bod yna "symud tuag at fyd lle nad oes yna unrhyw reolau".
Wrth siarad gyda'r BBC mae'r Gweinidog Diwydiant ac Adnoddau Naturiol yr Ynys Las, Naaja Nathanielsen wedi dweud: "Dydyn ni ddim eisiau bod yn Americanwyr ac rydyn ni wedi bod yn glir am hynny."
Mae Trump wedi bygwth ychwanegu tariffau o 10% i'r "holl ac unrhyw nwyddau" sy'n cael eu mewnforio o wyth o wledydd Ewropeaidd os byddan nhw yn gwrthwynebu ei gynlluniau i feddiannu'r Ynys Las.
Yn ôl Arlywydd America mae yna "nifer o gyfarfodydd" wedi eu trefnu yn ystod Fforwm Economaidd y Byd yn Davos er mwyn trafod yr Ynys Las.
Cynyddu mae'r tensiwn rhwng America a gwledydd Ewropeaidd ynglŷn â'r mater.
Dyw Trump ddim yn credu y byddai cymryd drosodd yr ynys yn bygwth NATO. Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth dywedodd y bydden nhw yn "gweithio allan ryw gynllun lle y bydd NATO yn hapus iawn ac fe fyddwn ni yn hapus iawn".
Roedd yn rhaid i'r awyren yr oedd Trump yn teithio arni i Davos droi yn ôl am fod yna broblemau technegol. Mae Trump a'i ymgynghorwyr yn teithio mewn awyren arall ac mae disgwyl iddynt gyrraedd y fforwm yn hwyr.