Newyddion S4C

Gŵyl Undod yn dathlu degawd o roi llwyfan i berfformwyr niwroamrywiol

19/06/2022

Gŵyl Undod yn dathlu degawd o roi llwyfan i berfformwyr niwroamrywiol

Mae gŵyl sydd yn hybu perfformwyr niwroamrywiol a rhai gydag anableddau dysgu yn dathlu ei degfed blwyddyn dros y penwythnos. 

Mae Gŵyl Undod wedi'i threfnu gan y cwmni theatr cynhwysol Hijinx ac yn cynnwys cymysgedd o theatr, ffilm, dawns a chomedi. 

Bwriad cwmni Hijinx yw sicrhau bod perfformwyr sydd ag anableddau dysgu neu'n niwroamrywiol yn cael cyfle i gael eu cynrychioli ar y sgrin neu'r llwyfan. 

Dechreuodd yr ŵyl ddydd Iau ac mi fydd yn cynnwys 12 diwrnod o berfformiadau dros y pythefnos nesaf. 

Mae perfformiadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru mewn lleoliadau yng Nghaerdydd, Bangor a Llanelli wrth iddi ddychwelyd am y tro cyntaf ers y pandemig. 

Yn ôl aelodau theatr Hijinx, mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn rhai "anodd iawn".

"Naeth Hijinx fynd 'mlaen a 'neud yr holl beth ar-lein i'r gorau o'n ni'n gallu," meddai Glyn Morgan, sydd yn perfformio gyda Hijinks yn ystod yr ŵyl. 

"Ond yn anffodus, nid oedd pob un o'r pobl sy'n cymryd rhan gyda'r cyfleusterau i fynd ar-lein i ymuno mewn.

"Ac yn anffodus 'dan ni wedi colli llawer o'r bobl o'dd yn dod yn rhan o'r gwaith ddim yn dod 'nôl achos bod jyst pethau wedi newid.

"So ma' lot o golled wedi bod a hefyd ma' lot o bobl newydd yn dod mewn achos ma' nhw 'di clywed amdano ni a mae'r holl beth yn newid ac yn tyfu bob tro.

"So mae e 'di bod yn gyfnod anodd, mae e wedi bod yn gyfnod drist ar amserau a hefyd lle ni'n cael llawn hwyl achos rheiny sydd wedi bod ar-lein ac wedi bod yn ymuno 'da ni  wedi creu y gwaith hyfryd ar-lein hefyd."

Image
Hijinx
Mae'r ŵyl yn rhoi llwyfan i berfformwyr niwroamrywiol neu sy'n byw ag anableddau dysgu.

'Llwyfan hollbwysig'

Mae'r perfformwyr sydd yn cymryd rhan yn edrych ymlaen yn fawr at yr ŵyl yn dychwelyd. 

Bydd perfformiadau yn cynnwys theatr stryd, perfformiadau brenhinoedd a breninesau drag a bydd gŵyl ffilm yn cael ei chynnal am y tro cyntaf erioed. 

“Rydyn ni’n falch iawn o allu cyflwyno Gŵyl Undod eto yn 2022, gan gynnig llwyfan hollbwysig i sicrhau bod artistiaid anabl a niwrowahanol yn aros yn weladwy wrth i ni ddod allan o’r pandemig Covid 19; ni fu adeg bwysicach erioed i’n gŵyl," meddai Ben Pettitt-Wade, Cyfarwyddwr Artistig Hijinx. 

"Gobeithiwn y bydd cynifer o bobl â phosibl yn gallu ymuno â ni, boed hynny yng Nghaerdydd, Bangor, Llanelli neu ar-lein.

"Rydyn ni’n sicr bod rhywbeth i bawb yn ein rhaglen eclectig, sy’n cynnwys perfformiadau gwych o bob rhan o’r byd ar y llwyfan, ar y stryd ac ar y sgrin.”

Fe fydd yr holl berfformiadau yn cael eu ffrydio'n fyw ar-lein ar gyfer pobl sydd methu mynd i wylio. 

Lluniau: Theatr Hijinx

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.