Newyddion S4C

Galw am gynnal Eurovision 2023 yng Nghymru yn sgil y rhyfel yn Wcráin

17/06/2022
Llwyfan Eurovision

Mae yna alwadau i gynnal Eurovision 2023 yng Nghaerdydd wedi i'r BBC ddechrau ar drafodaethau i gynnal y gystadleuaeth ganu'r flwyddyn nesaf. 

Yn draddodiadol, mae'r wlad sydd yn ennill y gystadleuaeth yn cynnal y digwyddiad y flwyddyn ganlynol. 

Fe wnaeth Kalush Orchestra o Wcráin ennill y gystadleuaeth eleni yn Turin ar ôl ennill y nifer fwyaf erioed o bleidleisiau gan y cyhoedd. 

Dywedodd yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU) ei fod wedi bod yn gweithio gyda darlledwr cyhoeddus Wcráin, UA:PBC, i geisio cynnal Eurovision yn y wlad flwyddyn nesaf. 

Er hyn, yn sgil ymosodiad Rwsia ar y wlad, mae'r EBU wedi penderfynu na fydd hi'n ddiogel i Wcráin cynnal y gystadleuaeth.  

Yn hytrach, mae trafodaethau i gynnal Eurovision yn y Deyrnas Unedig, wedi i Sam Ryder orffen yn ail tu ôl i Wcráin yn y gystadleuaeth eleni. 

O ganlyniad mae rhai wedi galw i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yng Nghymru.

Mae Arweinydd y ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ymhlith rhai sydd yn gobeithio y bydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn lleoliad posib. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.