Llywodraeth y DU yn cymeradwyo cais i estraddodi Julian Assange i'r UDA

The Guardian 17/06/2022
Julian Assange

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo cais i estraddodi Julian Assange i Unol Daleithiau'r America. 

Mae Mr Assange, a wnaeth sefydlu'r wefan WikiLeaks, yn wynebu cyhuddiadau o ysbïo yn yr UDA.

Daw hyn wedi iddo ryddhau nifer o ddogfennau cyfrinachol yn gysylltiedig â'r rhyfeloedd yn Iraq ac Afghanistan. 

Bu Mr Assange yn treulio saith mlynedd yn derbyn lloches yn llysgenhadaeth Ecuador yn Llundain cyn iddo gael ei arestio yn 2019. 

Mae'r ymgyrchydd wedi gwadu torri'r gyfraith ac mewn datganiad dywedodd ei dîm y byddan nhw'n apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Gartref. 

Darllenwch fwy yma

Llun: ArtsElectronica / Flickr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.