Carcharu dyn am achosi difrod wrth geisio tarfu ar ddosbarthiad brechlyn Covid-19

Mae dyn o Warrington wedi'i garcharu am dorri ffenestri mewn dau ganolfan brechu yng ngogledd Cymru, mewn ymdrech i arafu'r ddarpariaeth o frechlynnau Covid-19.
Fe wnaeth Paul Leonard Edwards achosi difrod gwerth £11,000 trwy daflu cerrig trwy ffenestri canolfannau brechu yn Llandudno a Llanelwy.
Fe honnodd Mr Edwards yn Llys y Goron Yr Wyddgrug bod cyfiawnhad i'r ymosodiadau gan ei fod yn amddiffyn y cyhoedd rhag "sgil-effeithiau peryglus" brechlyn Covid-19.
Cafodd ei ddedfrydu i 21 mis yn y carchar am achosi difrod troseddol.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Heddlu Gogledd Cymru