Dyn a gafwyd yn ddieuog o lofruddio ei wraig mewn siop sglodion yn Sir Gâr wedi marw

Mae dyn a gafwyd yn ddieuog o lofruddio ei wraig mewn siop sglodion yn Sir Gâr yn 2018 wedi marw.
Roedd Geoffrey Bran yn byw yn Hermon lle'r oedd yn arfer rhedeg busnes The Chipoteria ger y cartref teuluol gyda'i wraig Mavis.
Bu farw Mrs Bran mewn digwyddiad gydag olew coginio, ac fe gafodd Mr Bran ei gyhuddo o'i llofruddio.
Roedd wedi dadlau mai damwain oedd marwolaeth ei wraig ac fe'i cafwyd yn ddieuog mewn achos llys yn Abertawe yn 2019.
Dywedodd ei deulu ei fod wedi marw yn Ysbyty Glangwili ar 1 Mehefin.
Darllenwch ragor yma.