Cyhoeddi llythyr ymddiswyddo ymgynghorydd moeseg Boris Johnson

Mae Rhif 10 Downing Street wedi cyhoeddi'r ohebiaeth rhwng yr Arglwydd Geidt, cyn-ymgynghorydd moeseg Boris Johnson, a'r prif weinidog.
Mewn datganiad byr nos Fercher, fe gyhoeddodd yr Arglwydd Geidt ei fod yn gadael ei rôl fel Ymgynghorydd Annibynnol ar Ddiddordebau Gweinidogol y Prif Weinidog.
Esboniodd llythyr ymddiswyddo yr Arglwydd Geidt, sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Iau, ei fod yn ymddiswyddo ar ôl cael ei roi "mewn sefyllfa amhosib" o ganlyniad i gynllun fyddai'n peryglu torri'r cod gweinidogol.
Ychwanegodd ei fod wedi ystyried ymddiswyddo o achos sgandal Partygate, ond mai'r cyngor yr oedd disgwyl iddo ymateb iddo ar faterion masnachu oedd y rheswm am ei ymddiswyddiad.
Roedd Rhif 10 wedi dod dan bwysau cynyddol i ddatgelu yn gyhoeddus pam fod ymgynghorydd moeseg y prif weinidog wedi ymddiswyddo.
Darllenwch y stori'n llawn yma.