Newyddion S4C

Diflaniad Dom Phillips: Heddlu Brasil yn darganfod dau gorff

The Guardian 16/06/2022
Dom Phillips

Mae heddlu Brasil wedi darganfod gweddillion dynol wrth ymchwilio i ddiflaniad y newyddiadurwr Prydeinig Dom Phillips a'r ymgyrchydd dros hawliau brodorol Bruno Pereira.

Aeth y ddau ar goll 10 diwrnod yn ôl ar ôl methu a dychwelyd o daith ar yr afon Itaquai yn yr Amazon.

Yn ôl yr heddlu, dyn lleol oedd dan amheuaeth o lofruddio'r ddau arweiniodd swyddogion at y cyrff.

Mae Amarildo da Costa de Oliveira, 41 oed, wedi cyfaddef iddo saethu'r ddau'n farw yn ôl swyddogion yr heddlu.

Darllenwch ragor yma.

Llun: Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.