Ymgynghorydd moeseg Boris Johnson yn ymddiswyddo
15/06/2022
Mae ymgynghorydd moeseg y Prif Weinidog, Yr Arglwydd Christopher Geidt, wedi ymddiswyddo.
Mewn datganiad byr nos Fercher, fe gyhoeddodd yr Arglwydd Geidt ei fod yn gadael ei rôl fel Ymgynghorydd Annibynnol ar Ddiddordebau Gweinidogol y PW.
Daw hyn ddyddiau'n unig ar ôl i ASau ei gwestiynu ynglŷn ag ymddygiad Boris Johnson yn sgil Partygate, gan holi os yw'r Prif Weinidog wedi torri'r Cod Gweinidogol drwy dderbyn dirwy.
Dyma'r ail ymgynghorydd annibynnol i ymddiswyddo o Lywodraeth Boris Johnson wedi i Alex Allan adael yn dilyn ymateb y Prif Weinidog i'r canfyddiadau bod Priti Patel wedi bwlio gweision sifil.
Llun: Chris McAndrew