O Tafwyl i Tom Jones: Disgwyl prysurdeb mawr yng Nghaerdydd dros y penwythnos

Mae disgwyl prysurdeb mawr yng Nghaerdydd dros y penwythnos, wrth i nifer o ddigwyddiadau gael eu cynnal yn y brifddinas.
Fe fydd Tafwyl yn dychwelyd ar ôl cyfnod yn pandemig, ac artistiaid fel Tom Jones a'r Stereophonics yn diddanu cynulleidfaoedd mewn cyngherddau hefyd.
Mae'r Urdd yn cynnal eu Gemau Stryd cyntaf hefyd, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio na fydd Gorsaf Heol y Frenhines ar agor nos Wener a nos Sadwrn o ganlyniad i'r digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal.
Am fwy o wybodaeth am yr hyn fydd yn cael ei gynnal, mae rhagor o fanylion yma.
Oherwydd cyngherddau @stereophonics yn @PrincipalitySta, bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 22:00 nos Wener (17ain) a nos Sadwrn (18ain).
— Trafnidiaeth Cymru Trenau Transport for Wales Rail (@tfwrail) June 15, 2022
Defnyddiwch orsaf Caerdydd Canolog ar ol 22:00
ℹ️ https://t.co/WQ0H3T208W pic.twitter.com/bLfatdLM68