Eluned Morgan yn cydnabod 'her' Llafur Cymru cyn etholiad y Senedd

Eluned Morgan PA

Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi dweud fod ei phlaid yn wynebu misoedd heriol cyn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.

Wrth siarad mewn lansiad ymrwymiad maniffesto ddydd Gwener, fe ddywedodd y Farwnes Morgan fod yna "nifer o resymau" pam mae’r Blaid Lafur yn perfformio’n wael yn yr arolygon barn.

Fe wnaeth arolwg barn diweddar gan YouGov ar gyfer ITV Cymru Wales awgrymu fod y Blaid Lafur yn y pedwerydd safle, sef ei safle isaf erioed mewn arolwg barn ar gyfer etholiadau'r Senedd - ar 10% ochr yn ochr â'r Ceidwadwyr.

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Rydym yn gwybod fod yna her o'n blaenau ni.

"Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus, mae wedi ymrwymo i sicrhau fod y gefnogaeth yno, fod yr arian yno."

Mewn ysgol yn Nhrelái yng Nghaerdydd ddydd Gwener, fe ddywedodd Eluned Morgan y byddai staff cefnogi mewn ysgolion yn derbyn tâl drwy gydol y flwyddyn pe bai Llafur yn arwain y llywodraeth nesaf yng Nghymru.

Wrth gael ei holi os ydi hi'n rhoi'r bai ar Brif Weinidog y DU Syr Keir Starmer am berfformiad gwael Llafur Cymru yn yr arolygon barn, fe ddywedodd: "Mae yna nifer o resymau pam fod Llafur Cymru yn cael ei herio ar hyn o bryd.

"Beth sy'n bwysig nawr yw ein bod ni'n edrych ymlaen tuag at y dyfodol gyda gobaith, a bod pobl yn cydnabod mai dyma'r amser am bennod newydd yng Nghymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.