Rhybudd melyn am law i rannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i rannau o Gymru.
Mae'r rhybudd mewn grym ers 02:00 fore Gwener ac fe fydd yn parhau tan 22:00 nos Sadwrn.
Mae'r storm wedi’i henwi yn Storm Ingrid gan wasanaeth tywydd Portiwgal, ac fe fydd yn gwneud ei ffordd tua'r gogledd dros y Môr Celtaidd ddydd Sadwrn, gan arwain at gawodydd hirach o law am gyfnodau.
Me disgwyl i rhwng 20-40mm o law ychwanegol, a 50mm mewn rhai mannau, ddisgyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y gallai rhai'r amodau achosi llifogydd mewn rhai mannau a chreu trafferthion i deithwyr.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Sir Gâr
- Castell-nedd Port Talbot
- Rhondda Cynon Taf
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Ceredigion
- Casnewydd
- Abertawe
- Caerffili
- Merthyr Tudful
- Sir Benfro
- Torfaen
- Caerdydd
- Sir Fynwy
- Powys
- Bro Morgannwg
