Bachgen 12 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad gan siarc yn Awstralia
Mae bachgen 12 oed wedi marw o'i anafiadau yn dilyn ymosodiad gan siarc yn Sydney, Awstralia.
Fe gafodd Nico Antic ei frathu gan siarc ddydd Sul diwethaf wedi iddo ef a'i ffrindiau neidio oddi ar greigiau yn ardal Vaucluse o'r ddinas.
Fe gafodd ei dynnu o'r dŵr gan ei ffrindiau a'i gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol i'w ddwy goes.
Ddydd Sadwrn, fe wnaeth ei deulu ryddhau datganiad yn cyhoeddi fod y bachgen wedi marw o'i anafiadau.
"Mae ein calonnau ni wedi eu torri wrth rannu fod ein mab, Nico, wedi marw," meddai'r teulu.
"Roedd Nico yn fachgen ifanc hapus, cyfeillgar a hoff o chwaraeon gyda'r ysbryd mwyaf caredig a hael.
"Roedd yn llawn bywyd a dyna sut y byddwn yn ei gofio."
Daw ei farwolaeth wedi cyfres o ymosodiadau ar arfordir dwyreiniol Awstralia.
Fe gafodd dwsinau o draethau, gan gynnwys yn Sydney, eu cau yr wythnos yma ar ôl pedwar ymosodiad siarc mewn dau ddiwrnod.
