'S’neb yn haeddu gorfod byw mewn ofn o bobl sydd i fod eu caru'

'S’neb yn haeddu gorfod byw mewn ofn o bobl sydd i fod eu caru'

Mae menyw o Geredigion sydd wedi dioddef cam-driniaeth domestig eisiau codi ymwybyddiaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr.

Profodd Mari Lewis, 24 oed, o Lanbedr Pont Steffan gam-driniaeth domestig yn ystod cyfnod "anodd" iddi.

“O’n i’n byw pob dydd mewn ofn o sut o’n i’n mynd i gal fy nhrin ac eto, ansicrwydd o beth oedd yn mynd i ddigwydd o ddydd i ddydd – odd e’n adeg anodd.”

Ar ôl derbyn cefnogaeth gan Wasanaeth Trais Domestig Gorllewin Cymru, mae hi’n awyddus i godi ymwybyddiaeth am yr help sydd ar gael.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd fod “pob sefyllfa yn wahanol ac mae’n anodd dod i dermau gyda’r ffaith eich bod yn cael eich cam-drin.”

“Does neb yn haeddu gorfod byw mewn ofn o bobl sydd i fod eu caru nhw,” meddai.

“Sen i’n meddwl bod digon o wasanaethau i gal mas 'na oes, ond y broblem fwyaf sen i’n meddwl yw cal y cymorth ‘na mas i’r bobl sydd rili angen e.”

“Fi’n credu fod angen codi mwy o ymwybyddiaeth am y cymorth sydd mas ‘na achos yn bersonol - o’n i ddim yn ymwybodol am yr elusen [Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru] nes bod fi yn y sefyllfa fy hunan.”

'Unig'

Flwyddyn yn ôl, gosododd Mari her i’w hun i gerdded llwybr arfordir Cymru i gyd o fewn y flwyddyn er mwyn codi arian i Wasanaeth Trais Domestig Gorllewin Cymru.

Bellach, mae wedi codi dros £3,000 ac yn dod â’i thaith i ben yng Ngheinewydd ddydd Sul, sef Dydd Santes Dwynwen.

“O’n i’n un o’r rhai lwcus rili odd wedi gallu gadael y sefyllfa,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Fi’n credu o ran profiad fi fy hunan, nes i sort of gweld pa mor unig ma' rhywun yn gallu bod pan ma' nhw mewn sefyllfa o unrhyw fath o gam-driniaeth domestig.

“Neges fi, fi’n credu, i unrhyw un sydd mewn sefyllfa tebyg neu wedi bod mewn sefyllfa tebyg yw, bod nhw ddim ar ben ei hunain, hyd yn oed os ma nhw’n teimlo bod nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.