Cymru Premier JD: Y Chwech Uchaf yn brwydro am lefydd yn Ewrop

Sgorio
CPD Caernarfon

Mae 12 clwb yr uwch gynghrair wedi wynebu ei gilydd ddwywaith ac felly mae rhan gynta’r tymor wedi dod i ben a’r gynghrair wedi ei hollti’n ddwy.

Am weddill y tymor bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am y bencampwriaeth, ac yn paratoi am y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.

Bydd clybiau’r Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair, ac yn anelu am y 7fed safle er mwyn cipio’r tocyn olaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Ras dau geffyl ydi hi am y bencampwriaeth eleni, gyda’r Seintiau Newydd chwe phwynt uwchben Cei Connah ar y copa gyda 10 gêm gynghrair ar ôl i’w chwarae.

Y Chwech Uchaf

Pen-y-bont (3ydd) v Caernarfon (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Eleni, bydd y clwb sy’n gorffen yn 2il yn camu’n syth i Ewrop, ac felly yn ail ran y tymor bydd Pen-y-bont yn ceisio cau’r bwlch o naw pwynt sydd rhyngddyn nhw â Chei Connah.

Mae Caernarfon 13 o bwyntiau y tu ôl i’r Nomadiaid, ac felly canolbwyntio ar y gemau ail gyfle fydd y nod i’r Cofis, ond cyn hynny mae gan dîm Richard Davies gêm allweddol yn erbyn Bae Colwyn yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru y penwythnos nesaf.

Mae Pen-y-bont wedi colli dau o’u sêr ifanc yn ystod y pythefnos diwethaf gyda Gabriel Kircough yn ymuno â Forest Green, ac enillydd Esgid Aur 2024/25, James Crole yn arwyddo i Gasnewydd.

Sgoriodd James Crole 31 gôl mewn 58 ymddangosiad i Ben-y-bont, ac mae Rhys Griffiths wedi symud yn sydyn i geisio llenwi esgidiau mawr ei brif sgoriwr drwy arwyddo Ethan Cann o Lanelli.

Ar ôl serennu yn yr ail haen, dyw Ethan Cann heb ddisgleirio yn lliwiau Llanelli eleni gyda dim ond dwy gôl gynghrair hyd yma, ond y gobaith i Griffiths yw y bydd yr ymosodwr 23 mlwydd oed yn gallu codi ei safon eto gyda gwell gwasanaeth ac ansawdd o’i gwmpas.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ͏ ❌➖➖✅➖
Caernarfon: ͏ ❌➖❌✅➖

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Barri (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am bedair blynedd yn olynol, ac mae criw Craig Harrison yn dechrau ail ran y tymor chwe phwynt yn glir ar frig y tabl.

Mae’r Seintiau wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf, a gyda rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG i’w ddod ar ddiwedd mis Chwefror, bydd cewri Croesoswallt yn anelu i gwblhau dwbl domestig am y pumed tymor o’r bron.

Y Barri fydd gwrthwynebwyr y Seintiau yn y rownd derfynol honno ar yr 28ain o Chwefror, a gyda’r Seintiau heb golli mewn 15 gêm yn erbyn y Dreigiau bydd Craig Harrison yn benderfynol o barhau â’r rhediad i gael y fantais seicolegol cyn y ffeinal.

Mae’r Barri wedi cadarnhau eu lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers pum mlynedd, ac felly mae’n gyfnod cyffrous i’r clwb gyda rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG a’r gemau gyfle Ewropeaidd ar y gorwel.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅❌✅✅

Y Barri: ➖✅❌❌✅

Bae Colwyn (6ed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)

Mae Bae Colwyn wedi llwyddo i hawlio lle’n y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl sicrhau dyrchafiad, ac felly mae’r Gwylanod yn saff o’u lle yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop ym mis Ebrill.

Ar ben hynny, mae gan Fae Colwyn gêm anferthol yn erbyn Caernarfon yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru y penwythnos nesaf, ar ddydd Sadwrn, 31 Ionawr.

Ond ar ôl dwy golled yn olynol ers dechrau’r flwyddyn, bydd Michael Wilde yn gobeithio am ganlyniad cadarnhaol nos Wener yma, er mwyn codi hyder ei garfan cyn y frwydr fawr yn erbyn Caernarfon ddydd Sadwrn nesaf.

Mae Cei Connah yn mwynhau cyfnod rhyfeddol, gyda’r clwb heb golli yn eu 14 gêm gynghrair ddiwethaf (ennill 11, cyfartal 3), sef eu rhediad hiraf heb golli’n y gynghrair ers Medi 2022 i Ionawr 2023 (15 gêm heb golli – ennill 10, cyfartal 5).

Roedd tîm John Disney wedi ennill wyth gêm gynghrair yn olynol cyn eu gêm ddiwethaf ble bu’n rhaid rhannu’r pwyntiau gyda Chaernarfon (Cfon 2-2 Cei).

Mae’r bartneriaeth ymosodol rhwng Harry Franklin a Rhys Hughes wedi profi’n ffrwythlon i’r Nomadiaid eleni gyda’r ddau wedi cyfrannu at dros 20 gôl gynghrair yr un yn rhan gynta’r tymor.

Record cynghrair diweddar:

Bae Colwyn: ͏✅❌✅❌❌

Cei Connah: ✅✅✅✅➖

Y Chwech Isaf

Llansawel (8fed) v Llanelli (12fed) | Nos Wener – 19:45

Mae Llanelli 15 pwynt o dan ddiogelwch y 10fed safle, ac ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010, does dim un tîm erioed wedi llwyddo i ddringo allan o safleoedd y cwymp ar ôl dechrau ail ran y tymor ar waelod y gynghrair.

Dyw Llanelli m’ond wedi cipio un pwynt o’u 12 gêm gynghrair ddiwethaf, ac ar ôl sgorio dim ond 12 gôl mewn 22 gêm, mae gan Terry Boyle dasg anferthol o’i flaen i geisio achub y Cochion.

Ar ôl curo Hwlffordd a’r Barri yn eu dwy gêm ddiwethaf, dyw Llansawel bellach ond driphwynt y tu ôl i Met Caerdydd yn y ras am y 7fed safle.

Dyw Llansawel m’ond wedi colli dwy o’u wyth gêm ddiwethaf (vs YSN a Chei Connah), ond bydd Andy Dyer yn dal i edrych dros ei ysgwydd gan mae dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu Llansawel a safleoedd y cwymp.

Record cynghrair diweddar: 

Llansawel: ͏➖❌➖✅✅

Llanelli: ❌❌❌❌❌

Met Caerdydd (7fed) v Hwlffordd (9fed) | Nos Wener – 19:45

Met Caerdydd a Hwlffordd yw’r ddau glwb sydd wedi methu â chyrraedd y Chwech Uchaf eleni ar ôl llwyddo i wneud hynny'r tymor diwethaf, gan agor y drws i Gei Connah a Bae Colwyn i gymryd eu lle y tymor yma.

Roedd Met wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri thymor diwethaf, ond dywedodd Ryan Jenkins nad yw’n rhy siomedig a bod ffocws y clwb bellach ar geisio sicrhau’r 7fed safle.

Dyw Met Caerdydd heb ennill yn eu pum gêm ddiwethaf, tra bod Hwlffordd m’ond wedi ennill un o’u pedair gêm ddiwethaf.

Gorffennodd Hwlffordd yn 3ydd y tymor diwethaf, ond mae’r Adar Gleision wedi methu ac adeiladu ar y llwyddiant hwnnw eleni, ac osgoi’r cwymp fydd y targed cyntaf i dîm Tony Pennock yn ail ran y tymor.

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ͏✅➖❌➖➖
Hwlffordd: ✅➖✅➖❌
 

Y Bala (10fed) v Y Fflint (11eg) | Nos Wener – 19:45

Deg diwrnod ar ôl buddugoliaeth arbennig Y Bala o 4-0 oddi cartref yn erbyn Y Fflint, mi fydd y clybiau yn cyfarfod eto ar ddechrau ail ran y tymor.

Deuddydd ar ôl symud o’r Fflint i’r Bala, chwaraeodd y blaenwr, Cameron Ferguson ei ran yn y fuddugoliaeth i dîm Steve Fisher, yn sgorio ei gôl gyntaf yn yr uwch gynghrair, a chwarae rhan allweddol mewn dwy gôl arall.

Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ac o’r clybiau presennol, Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb arall sydd wedi aros yn y gynghrair yn ddi-dor ers tymor cynta’r Bala yn 2009/10.

Ond ar ôl 12 mlynedd yn y Chwech Uchaf, mae’r Bala wedi methu’r nod eleni ac mae’r clwb mewn perygl o syrthio i’r ail haen ar ôl colli 10 o’u 14 gêm ddiwethaf.

Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill un o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf, ac maen nhw’n dechrau ail ran y tymor yn safleoedd y cwymp, ond byddai buddugoliaeth yn erbyn Y Bala nos Wener yn eu codi allan o’r ddau isaf.

Llanelli (12 gôl) yw’r unig glwb i sgorio llai o goliau na’r Bala (19 gôl) yn rhan gynta’r tymor, ond daeth 26% o goliau’r Bala yn eu dwy gêm yn erbyn Y Fflint (5).

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ➖❌❌❌✅

Y Fflint: ➖➖❌✅❌

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.