Newyddion S4C

1.2 miliwn o sesiynau gwylio i gynnwys pêl-droed S4C ar gyfryngau cymdeithasol

15/06/2022
Cymru yn erbyn Gwlad Belg / Gwefan CBD Cymru

Fe welodd S4C 1.2m o sesiynau gwylio ar ei chynnwys ar gyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf wrth roi sylw i ddigwyddiadau mawr fel Eisteddfod yr Urdd a'r gêm gymhwyso i Gwpan y Byd rhwng Cymru a'r Wcráin.

Fe wyliodd mwy o bobl nag erioed y gêm dyngedfennol yn Gymraeg ar S4C medd y sianel.

Daeth y newyddion gan Sian Doyle, Prif Weithredwr, S4C yn ei hanerchiad yn nghynhadledd Copa Cyfryngau Cymru ddydd Mercher.

Dywedodd fod 250,000 o bobl yn gwylio darllediadau llinol S4C o Eisteddfod yr Urdd, gyda chwarter o’r rhain yn gwylio tu allan i Gymru. Yn ogystal, roedd 250,000 wedi gwylio cynnwys Eisteddfod yr Urdd S4C ar y cyfryngau cymdeithasol.

Daw'r ffigurau wrth i'r sianel baratoi i ddatgelu ei strategaeth newydd cyn ei phen-blwydd yn 40 oed eleni.

Dywedodd Siân Doyle: "Mae poblogrwydd cynyddol darlledu Cymraeg yn ennill enw da i S4C fel cartref profiadau cenedlaethol Cymru. Gyda chynlluniau cyffrous ar gyfer partneriaethau a chyd-gynyrchiadau rhyngwladol, mae S4C yn dod â Chymru i'r byd ac yn arwain y gwaith mewn oes newydd o ddiddordeb a chyffro byd-eang gyda thalent o Gymru.

"Hoffwn ddymuno’n dda i’r tîm pêl-droed cenedlaethol wrth iddynt baratoi at Qatar ac mae  S4C yn edrych ymlaen at bartneru gyda nhw ar y daith.”

Mae S4C wedi sicrhau hawliau i ddarlledu gemau tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru am ddim ar deledu cyhoeddus o 2022 hyd at 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.