Netflix i greu cystadleuaeth deledu realaeth yn seiliedig ar gyfres 'Squid Game'

Mae cwmni Netflix yn bwriadu creu cystadleuaeth deledu realaeth yn seiliedig ar y gyfres ddrama boblogaidd 'Squid Game'.
Bydd 456 o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn 'Squid Game: The Challenge' - gyda gwobr o $4.56m i'r enillydd, sef y wobr fwyaf yn hanes cyfresi realaeth ar deledu.
Daeth y gyfres o Dde Korea yn fyd enwog am ei golygfeydd treisgar, wrth i gymeriadau oedd mewn trafferthion ariannol beryglu eu bywydau mewn nifer o gemau wrth geisio hawlio gwobr enfawr.
Mae Netflix wedi cadarnhau y bydd ail gyfres o'r ddrama deledu'n cael ei darlledu.
Darllenwch ragor yma.