Dyn ar sgwter trydan wedi ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Mae dyn 27 oed wedi ei anafu'n ddifrifol wrth deithio ar sgwter trydan yn ardal Adamsdown o Gaerdydd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 18:45 nos Fawrth ac mae anafiadau'r dyn 27 oed wedi eu disgrifio gan yr heddlu fel rhai all beryglu ei fywyd.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac roedd y ffordd ar gau am gyfnod tra roedd yr heddlu'n cynnal eu hymchwiliadau.
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng gyrrwr y sgwter trydan a char Ford Galaxy du.
Darllenwch ragor yma.