Newyddion S4C

Agor cwest i farwolaeth dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llŷn

North Wales Live 15/06/2022
Droy

Mae cwest i farwolaeth dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn wedi clywed sut y bu farw mewn gwrthdrawiad ar ôl i gerbyd arall daro ei gar.

Bu farw Droy Darroch-York, 20, o Nefyn, ar 4 Mehefin yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd y B4354.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ei fod wedi marw yn y fan a'r lle o ganlyniad i anafiadau i'w ben ar ôl i'w gar droi drosodd.

Cafodd dyn 57 oed ei gludo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau oedd yn cael eu disgrifio ar y pryd fel rhai oedd yn peryglu ei fywyd.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.