'Mor gyffrous': Ymateb Kate Bush i lwyddiant rhyngwladol ei chân yn sgil Stranger Things
Mae'r gantores Kate Bush wedi dweud ei bod hi "mor gyffrous" am lwyddiant newydd ei chân Running Up That Hill.
Cafodd y gân ei rhyddhau yn wreiddiol yn 1985 cyn cael ei defnyddio yn y gyfres ddiweddaraf o Stranger Things ar y gwasanaeth ffrydio Netflix.
Yn sgil buddugoliaeth Cymru yn erbyn Wcráin i gyrraedd Cwpan y Byd, fe gafodd Kate Bush ei maeddu gan Dafydd Iwan i gyrraedd brig siartiau iTunes.
Mae ei gân yntau Yma o Hyd, a gafodd ei rhyddhau yn 1983, wedi profi adfywiad yn sgil llwyddiant Cymru ar y cae pêl-droed.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Bush ei fod yn newyddion anhygoel fod y gân wedi cyrraedd rhif un yn Norwy ac Awstria.
Mae'r gân hefyd wedi cyrraedd rhif pedwar yn yr UDA - y tro cyntaf i'r artist gyrraedd y 10 uchaf yn y wlad.
Dywedodd nad oedd hi "erioed wedi profi unrhyw beth tebyg o'r blaen".
Diolchodd i'r Brodyr Duffer am ddefnyddio ei chân yn y gyfres ddiweddaraf o Stranger Things ar Netflix, gan olygu bod y trac yn cael ei ddarganfod gan "gynulleidfa newydd sbon".