Newyddion S4C

Cymru'n colli o 3-2 yn erbyn Yr Iseldiroedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd

14/06/2022
S4C

Fe gafodd gobeithion Cymru o sicrhau unrhyw bwyntiau yn eu gêm yn erbyn Yr Iseldiroedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd eu chwalu yn ystod munudau olaf yr ail hanner, wrth i’r tîm cartref sgorio gôl hwyr yn Rotterdam nos Fawrth.

Roedd hi wastad am fod yn dipyn o her i dîm Robert Page, gan fod Yr Iseldiroedd yn cael eu hystyried yn un o dimau gorau’r byd, ac yn ail yn rhestr detholion FIFA.

Fe ddechreuodd y gêm yn llawn cyffro gyda bygythiad ymosodol Yr Iseldiroedd yn amlwg o’r chwiban gyntaf, ac fe ddaeth y gôl gyntaf gan Noel Lang wedi 17 munud o’r chware.

Fe ddaeth ail gôl y tîm cartref ychydig funudau’n unig yn ddiweddarach gyda’r ymosodwr Cody Gakpo yn dyblu mantais y tîm cartref. Ond daeth llygedyn o obaith yn ôl i Gymru dri munud yn ddiweddarach, wrth i Brenan Johnson sgorio ei ail gôl mewn dwy gêm i’r crysau cochion (oedd yn chwarae mewn melyn nos Fawrth).

Parhau wnaeth y sgôr ar 2-1 drwy weddill yr hanner cyntaf, ac am y rhan fwyaf o’r ail hanner, ac fe ddaeth gobaith mawr i Gymru am gêm gyfartal yn ystod yr amser ychwanegol, gyda neb llai na Gareth Bale yn sgorio cic o’r smotyn.

Ond fe gafodd gobeithion Cymru eu chwalu yn ystod y munud olaf o’r chwarae, wrth i Memphis Depay roi’r fantais yn ôl i’r tîm cartref.

Mae’r Iseldiroedd yn parhau a’u rhediad diguro yng Ngrŵp 4 o’r gynghrair, ac yn ddiogel o’u lle ar frig y grŵp gyda 10 pwynt, tra bod Cymru yn parhau ar waelod y Grŵp gydag un pwynt yn unig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.