Nicola Sturgeon yn lansio ymgyrch newydd dros annibyniaeth i'r Alban

Nicola Sturgeon yn lansio ymgyrch newydd dros annibyniaeth i'r Alban
Mae Nicola Sturgeon wedi lansio ymgyrch newydd i geisio sicrhau'r hawl i gynnal ail bleidlais dros annibyniaeth i'r Alban.
Wrth gyhoeddi dogfen 'Yn gyfoethocach, hapusach a thecach: Pam ddim yr Alban?' yng Nghaeredin ddydd Mawrth, dywedodd Ms Sturgeon y byddai nifer o ddogfennau pellach yn cael eu cyhoeddi fyddai'n canolbwyntio ar arian, trethi, amddiffyn, pensiwn ac aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn y misoedd i ddod.
Rhestrodd ffactorau fel Brexit, Covid ag arweinyddiaeth Boris Johnson fel enghreifftiau o'r hyn sydd wedi newid yn yr Alban ers y bleidlais ddiwethaf dros annibyniaeth yn 2014.
Bryd hynny fe bleidleisiodd 55.3% o bobl y wlad o blaid aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig, gyda 44.7% yn pleidleisio dros annibyniaeth.
Mae'r Blaid Geidwadol yn yr Alban wedi dweud y bydd yn gwrthwynebu unrhyw gam i gynnal ail bleidlais ar annibyniaeth i'r wlad.
Darllenwch ragor yma.