Cyn-ŵr Britney Spears wedi ei gyhuddo o'i stelcian ar ôl tarfu ar ei phriodas

Mae cyn-ŵr Britney Spears wedi ei gyhuddo o'i stelcian, wedi iddo darfu ar ei phriodas wythnos diwethaf.
Fe ddarlledodd Jason Alexander fideo byw ar ei gyfrif Instagram yn y briodas, lle honnodd fod Spears wedi ei wahodd.
Cafodd ei arestio a'i gymryd i'r carchar lleol yn ddiweddarach.
Fe aeth priodas Spears i'w thrydydd gŵr, Sam Asghari, yn ei flaen.
Mewn gwrandawiad yng Nghaliffornia ddydd Llun, fe blediodd Alexander yn ddieuog i gyhuddiadau o stelcian, tresmasu, curo a fandaliaeth.
Darllenwch fwy yma.
Llun: rhysadams (Flickr)