Cynllun i 'ddileu' achosion newydd o HIV mewn wyth mlynedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i "ddileu" HIV yn ystod yr wyth mlynedd nesaf.
Cafodd cynllun 26 cam ei gyhoeddi gan y llywodraeth ddydd Mawrth gyda'r bwriad o sicrhau nad oes unrhyw heintiadau newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys camau i helpu'r sawl sy'n byw â'r afiechyd a hefyd strategaeth i geisio mynd i'r afael â'r stigma sydd yn gysylltiedig gyda'r haint.
Yn ôl y cynllun, bydd y Llywodraeth yn sicrhau gwell fynediad at gondomau a Proffylacsis Cyn-gysylltiad (PrEP) fel rhan o'r cynllun er mwyn lleihau lledaeniad HIV.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn buddsoddi £3.9m er mwyn datblygu profion HIV ar-lein ymhellach gan hefyd sefydlu rhaglen gymorth genedlaethol i bobl gyda HIV yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r haint o fewn y cwricwlwm newydd.
Yn sgil y cyhoeddiad, dywedodd y Grŵp Trawsbleidiol Seneddol HIV ac AIDS ei fod yn croesawu cynlluniau'r Llywodraeth.
"Mae hyn yn amlinellu camau cadarn i leihau'r nifer o heintiadau, cynyddu mynediad at PrEP, taclo'r stigma a helpu'r rhai sydd yn byw gyda HIV yng Nghymru.
"Wrth wraidd y cynllun mae cydweithriad sydd yn alweddol i sicrhau bod y cynllun yn llwyddiannus. Rydym yn edrych ymlaen at ymateb yn yr ymgynghoriad."
The @WelshGovernment has published its Draft HIV Action Plan.
— APPG on HIV and AIDS (@APPG_HIV_AIDS) June 14, 2022
The plan sets out a collaboration approach in implementing the actions needed to make a difference to the lives of people living with HIV & eliminating new transmissions.
Read it here 👉https://t.co/Viifx6UIWb pic.twitter.com/jsdNw6DSXK
Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bydd y cynllun yn mynd i'r afael â'r "anwybodaeth a anoddefgarwch" sydd wedi bod yn gysylltiedig â HIV yn y gorffennol.
"Gan weithio gyda phartneriaid, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran gwella mynediad at brofion a thriniaeth yng Nghymru ac rydym yn falch o'r gostyngiad sylweddol yn y nifer sy’n cael diagnosis newydd o HIV," meddai.
"Mae mwy i'w wneud, a thrwy weithredu'r camau hyn galllwn wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl sy'n byw gyda HIV ac i ddiogelu cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol rhag y feirws.
Llun: Terrence Higgins Trust