Disgwyl i hediad cyntaf yn cludo ceiswyr lloches i Rwanda fynd yn ei flaen

Mae disgwyl i'r hediad cyntaf i gludo ceiswyr lloches i Rwanda fynd yn ei flaen nos Fawrth, er gwaethaf sawl her gyfreithiol a gwrthwynebiad eang i bolisi dadleuol Llywodraeth y DU.
Mae awyren Boeing 767-300 ar y llain yng nhanolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Boscombe Down yn Amesbury, yn barod i gludo'r ceiswyr lloches cyntaf i'r wlad yn nwyrain Affrica heno.
Mae arweinwyr eglwysig wedi beirniadu polisi Llywodraeth y DU.
Mae'r Goruchaf Lys a'r Llys Apêl wedi gwrthod apeliadau yn erbyn cludo'r ceiswyr lloches i Rwanda.
Rhagor am y stori yma.