Dyn yn pledio'n euog i lofruddiaeth menyw yn Sir Benfro

Mae dyn 31 oed wedi pledio'n euog i lofruddio menyw yn Sir Benfro y llynedd.
Cafodd corff Lily Sullivan, ei ddarganfod yn ardal Pwll y Felin yng nghanol tref Penfro yn ystod oriau mân fore Gwener, Rhagfyr 17.
Fe wnaeth Lewis Haines, o Flemish Court, Llandyfái bledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad ym mis Mai ond gwadodd iddo lofruddio Miss Sullivan.
Ond mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe, fe newidiodd Mr Haines ei ble gan gyfaddef iddo lofruddio'r fenyw 18 oed.
Fe fydd Mr Haines yn cael ei ddedfrydu ar 7 Gorffennaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.