Dringwr wedi marw ar ôl disgyn o glogwyn yn Eryri
13/06/2022
Mae dringwr wedi marw wedi iddo ddisgyn o glogwyn ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Cafodd y dyn ei ddarganfod gan ddau ddringwr arall yng Nghwm Cneifion ddydd Sadwrn.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd gan hofrennydd ond bu farw o'i anafiadau.
Roedd y dyn yn hyfforddwr dringo ac yn ffrind i nifer o bobl yng nghymuned Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.