Newyddion S4C

Y Parchedig Cen Llwyd wedi marw yn 70 oed

13/06/2022

Y Parchedig Cen Llwyd wedi marw yn 70 oed

Mae'r gweinidog Undodaidd, yr ymgyrchydd iaith a heddychwr Y Parchedig Cen Llwyd wedi marw yn 70 oed yn dilyn cyfnod o salwch. 

Bu'n weinidog gyda'r Undodiaid yng nghapeli Cribyn, Ciliau Aeron, Rhydygwin, Capel y Groes, Caeronnen Cellan ac Alltyblaca. 

Treuliodd chwarter canrif yn cyfrannu i fyfyrdodau Radio Cymru, cyn cyhoeddi llyfr a oedd yn gasgliad ohonynt yn 2018 o'r enw 'Munud i Feddwl.' 

Roedd Cen Llwyd yn ymgyrchydd brwd gyda Chymdeithas Yr Iaith Gymraeg , gan gymryd rhan mewn nifer o weithredoedd tor cyfraith gyda'r mudiad. 

Mae Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith yn cofio'r cyfnod yn y chwedegau pan roedd nifer fawr o fyfyrwyr yn ymuno â'r mudiad yn ogystal â phobl yn eu cymunedau. 

"Roedd Cen yn un o'r rhain, wedi ei wreiddio'n ddwfn yn Nyffryn Teifi," meddai, 

 "Roedd yn gymeriad unigryw, mor addfwyn, mor driw i'w gymuned, ac yn benderfynol bod y Gymraeg yn mynd i fyw yn Nyffryn Teifi a chymunedau eraill odd mewn dirywiad, a'u bod yn mynd i weld dyfodol disglair.   

"Mae ei ddylanwad yn enfawr arnom ni i gyd. O ran ei waith gyda Cymdeithas yr Iaith, nath o weithio'n galed am dros 20 mlynedd, trwy ddiwedd y 60au, 70au a'r 80au yn gweithio i sicrhau bod yr hen Ddyfed yn mabwysiadau polisi lle roedd pob ysgol yn rhan helaeth o'r sir, yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.  

"Ar ôl gweithio ym maes tai a bod yn gynghorydd, daeth yn ôl i weithio gyda ni eto, a sicrhau nad oedd bygythiad i S4C, pwyso ar Senedd Cymru i wneud defnydd llawn o'r Gymraeg. Odd pobol methu dweud 'na' wrth Cen. "    

Wrth roi teyrnged iddo,  dywedodd un o'i gyfeillion, Llinos Dafis ei fod yn ddyn "cynnes, gwr bonheddig a hyfryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.