Lauren Price yn ennill ei gornest focsio broffesiynol gyntaf

Mae’r bocsiwr Lauren Price wedi ennill ei gornest focsio broffesiynol gyntaf.
Fe gurodd y bocsiwr o Ystrad Mynach Valgerdur Gudsten-sdottir o Wlad yr Iâ yn Arena Wembley nos Sadwrn.
Fe enillodd Price pob un o’r chwe rownd yn yr ornest.
Roedd wedi troi yn broffesiynol ym mis Ebrill ar ôl iddi ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo y llynedd.
Mae Price hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn pêl-droed.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Twitter/Boxxer