Teyrngedau i ddyn fu farw wrth geisio achub plant o'r môr yn Sir Benfro
Teyrngedau i ddyn fu farw wrth geisio achub plant o'r môr yn Sir Benfro
Mae teulu dyn 47 oed fu farw yn y môr ger Llandudoch yng ngorllewin Cymru nos Wener wedi rhoi teyrnged i’w “arwr”.
Bu farw Hywel Morgan ar ôl cael ei dynnu o’r môr ar draeth Poppit Sands am tua 20:40 nos Wener.
Yn ôl adroddiadau roedd Hywel, oedd yn cael ei adnabod fel Hyw, wedi mynd i roi cymorth i grŵp o blant oedd mewn trafferthion yn y dŵr.
Mae ei deulu wedi dweud ei fod yn “dad ymroddgar a chariadus".
“Roedd yn unigolyn anhunanol oedd yn rhoi o’i amser i eraill. Roedd yn dad ymroddgar a chariadus ac roedd yn cael ei garu a’i barchu gan bawb oedd yn ei adnabod."
Cafodd dau o blant eu cludo i’r ysbyty i'w harchwilio yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd Millie Cook, oedd yn llygad dyst fod Mr Morgan wedi “rhoi ei fywyd i achub eraill.”
Ychwanegodd Ms Cook, sydd ar ei gwyliau yn yr ardal, fod Mr Morgan “yn glod i’w deulu a’i ffrindiau."
Dywedodd Cynghorydd Tref Aberteifi Clive Davies: “Roedd yn gymeriad hyfryd-eitha gymeriad o Aberteifi. Roedd hyn yn nodweddiadol ohono – hollol anhunanol.
"Mae’n drasiedi a bydd yn cael ei golli gan bawb yn y dref.
"Ath e mewn i trio helpu rywun a yn anffodus ma' fe wedi colli i fywyd wrth neud e.
"Ma' fe'n rhoi clatsen i'r dre. Lot o bobl yn teimlo fe achos odd cymaint o bobl yn nabod e, odd e'n nabod cymaint o bobl, a yn aml o'n i'n cael sgwrs 'da fe ar y stryd am pob math o bethau. Boi lleol. Boi hoffus iawn. Colled mawr i Aberteifi."