Ffermwr blaenllaw yn galw am wyrdroi’r gwaharddiad ar goleri trydan i gŵn

Mae’'r ffermwr blaenllaw Gareth Wyn Jones wedi galw am wyrdroi’r gwaharddiad ar goleri trydan i gŵn.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wahardd y coleri trydan yn 2010 gyda'r Alban yn dilyn yn 2018.
Dywedodd Mr Jones “mae’n rhaid bod yn greulon i fod yn garedig” a bod coler sy’n “rhwystro ci rhag rhedeg ar ôl gwartheg llawer yn well na difa ci ar ôl iddo ladd dafad.”
Yn ôl undeb ffermwyr yr NFU, fe gollodd ffermwyr yng Nghymru gwerth dros £300,000 o ymosodiadau gan gŵn y llynedd
Ychwanegodd Mr Jones: “Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd nôl ac edrych ar y dystiolaeth, mae’n rhaid iddyn nhw wrando ar y bobol sydd ar lawr gwlad.”
Darllenwch fwy yma.
Llun: LinkedIn