Newyddion S4C

Lauren Price

Lauren Price yn cychwyn ar ei gyrfa broffesiynol

NS4C 11/06/2022

Mae’r bocsiwr o Ystrad Mynach Lauren Price yn ymladd yn broffesiynol am y tro cyntaf nos Sadwrn.

Fe fydd hi'n wynebu Valgerdur Gudsten-sdottir o Wlad yr Iâ yn Arena Wembley.

Fe drodd yn broffesiynol ym mis Ebrill ar ôl iddi ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo llynedd.

Mae Price hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn pêl droed, ac wedi ymuno â chwmni hyrwyddo Boxxer.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.