‘Pryderon difrifol’ bod safle Parc Penrhos Ynys Môn ar werth unwaith eto

Rhun ap Iorwerth

Mae Aelod Senedd Cymru Môn wedi dweud fod gan drigolion “bryderon difrifol” o glywed bod safle Parc Penrhos ar yr ynys ar werth unwaith eto.

Daeth i'r amlwg yn gynharach yr wythnos hon fod y safle ar werth unwaith eto bron i flwyddyn wedi i gwmni The Seventy Ninth Group, a oedd wedi ei brynu ym mis Ionawr y llynedd gyda'r bwriad o ddatblygu parc gwyliau yno, fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r tir a'r eiddo sydd arno bellach ar werth unwaith eto a hynny drwy ymgynghorwyr eiddo masnachol Lambert Smith Hampton.

Mae’r hysbyseb gan y cwmni yn nodi bod caniatâd cynllunio a roddwyd ym mis Ebrill 2016 ar gyfer hyd at 500 o unedau hamdden, gan gynnwys lletyau a bythynnod.

“Mae'r caniatâd yn parhau'n ddilys tan fis Ebrill 2026, gan ddarparu llwybr clir ar gyfer datblygu,” medden nhw.

Wrth ymateb ddydd Gwener, dywedodd yr AS Rhun ap Iorwerth bod “lleisiau cymunedau lleol wedi cael eu hanwybyddu” ac mai dyma’r bennod ddiweddaraf mewn “saga hirhoedlog”.

“Rwyf wedi dadlau ers tro, pe bai'r cais cynllunio yn cael ei gyflwyno heddiw, na fyddai'n cael ei ganiatáu, ac rwy'n talu teyrnged i'r ymgyrchwyr lleol gweithgar rwyf wedi cydweithio efo sy'n parhau i wneud yr achos,” meddai.

“Tra bod caniatâd cynllunio yn parhau mewn lle, y flaenoriaeth yw sicrhau bod diwydrwydd dyladwy cadarn yn cael ei wneud ar unrhyw berchnogion posibl. 

“Mae angen datblygwr arnom sy'n barod i weithio'n adeiladol gyda'r gymuned ac sy'n deall ac yn parchu pwysigrwydd y safle i bobl ar draws Ynys Môn.”

‘Adolygiad newydd’

Pan ddaeth i’r amlwg bod y safle yn ôl ar y farchnad ddydd Mercher, dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan J Williams eu bod nhw’n “cydnabod diddordeb a sensitifrwydd y safle, ynghyd ar ddefnydd a gwerth sydd yn cael ei wneud o’r mynediad cyhoeddus”. 

"Gan fod hwn yn werthiant o dir preifat, ni fyddai'n briodol i wneud sylw pellach,” medden nhw.

Dywedodd grŵp cymunedol sy’n gobeithio cymryd rheolaeth o’r parc wrth Newyddion S4C ddydd Mercher eu bod nhw’n galw ar Gyngor Ynys Môn i ailystyried y caniatâd cynllunio presennol sydd ar y safle.

Roedd angen “adolygiad newydd i gyd-fynd ag anghenion lleol a diogelu mynediad cyhoeddus,” meddai arweinydd y grŵp Achub Parc Arfordirol Penrhos, Hilary Paterson-Jones.

Dywedodd Lambert Smith Hampton eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd i werthu'r safle gan weinyddwyr o gwmni CG&Co, gyda'r cwmni hwnnw'n gyd-weinyddwyr ar un o is-gwmnïau The Seventy Ninth Group, DJC Leisure Limited.

Mewn adroddiad gan y gweinyddwyr CG&Co ac Edward Avery-Gee a gyhoeddwyd gan Dŷ'r Cwmnïau ar 2 Rhagfyr, maen nhw’n dweud eu bod nhw am wneud cais i ymestyn y caniatâd cynllunio ar y safle.

Roedd y gweinyddwyr a Lambert Smith Hampton eisoes wedi cwrdd â Chyngor Ynys Môn i drafod y cais, medden nhw.

Y cefndir

Ym mis Chwefror y llynedd fe gyhoeddodd Heddlu'r Met yn Llundain fod pedwar o bobl wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad i "dwyll eang" honedig yn gysylltiedig â The Seventy Ninth Group.

Dywedodd swyddogion eu bod wedi meddiannu "swm mawr" o arian parod, arfau, oriawr ddrud a gemwaith yn dilyn cyrchoedd mewn pum eiddo gwahanol.

Roedd y twyll honedig yn ymwneud â'r cwmni'n cynnig enillion uchel i fuddsoddwyr ar eu benthyciadau.

Cafodd y pedwar oedd wedi eu harestio eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe wnaeth The Seventy Ninth Group "wadu'n bendant" eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.